Newyn Bengal 1943

Roedd Newyn Bengal 1943 yn un o nifer ohonynt sydd effeithio ar Bengal pan oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Credir i hyd at 4 miliwn o bobl farw.

Yn ystod blynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd, roedd yr ymerodraeth wedi dioddef nifer o golledion yn y dwyrain, gan golli Singapôr ac yna Burma i fyddin Siapan. Roedd Myanmar yn allforio reis ar raddfa fawr yn y cyfnod yma, gan gyflenwi tua 20% o anghenion Bengal. Cafodd llawr o reis ei allforio i'r Dwyrain Canol, i fwydo milwyr yno, a gwnaed y sefyllfa'n waeth gan storm a effeithiodd ar diroedd ger yr arfordir. Cred rhai haneswyr, er enghraifft Amartya Sen, mai'r hyn a achosodd y newyn oedd fod y sôn am brinder wedi peri i ffermwyr gadw gafael ar eu reis yn hytrach na'i werthu. Parodd hyn i brisiau godi, nes bod llawer o'r boblogaeth yn methu ei brynu.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search